Relationship Manager - Young People & Skills - Arts Council of Wales : Job Details

Relationship Manager - Young People & Skills

Arts Council of Wales

Job Location : Cardiff, UK

Posted on : 12/08/2025 - Valid Till : 29/08/2025

Job Description :

Rheolwr Perthynas - Pobl Ifanc a Sgiliau

Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cytundeb parhaol

Gradd D: Cyflog cychwynnol o £44,718

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rôl

Fel Rheolwr Perthynas - Pobl Ifanc a Sgiliau, byddwch yn gysylltydd dibynadwy yn ecosystem celfyddydau ieuenctid Cymru. Gan weithio gyda Phennaeth Pobl Ifanc a Sgiliau, byddwch yn cefnogi artistiaid a sefydliadau ifanc, gan gryfhau datblygiad sgiliau creadigol a sicrhau bod lleisiau ifanc Cymru yn cael eu dathlu a'u cefnogi. Bydd eich gwaith yn integreiddio'r Iaith Gymraeg, Amrywiaeth, Cynhwysiant, a Chyfiawnder Hinsawdd.

Amdanoch chi

Rydym yn chwilio am eiriolwr angerddol sydd â phrofiad ymarferol o weithio gyda phobl ifanc yn y celfyddydau. Rydych chi'n deall eu safbwyntiau a'u hanghenion sgiliau, gan feithrin perthnasoedd dilys â sefydliadau ieuenctid a darparwyr addysgol. Yn gydweithredol ac yn weladwy, rydych chi wedi ymrwymo i rymuso pobl ifanc creadigol a hyrwyddo blaenoriaethau diwylliannol a chymdeithasol Cymru gyda dull hirdymor a chynhwysol.

Yr Iaith Gymraeg

Mae gofynion iaith Gymraeg yn hanfodol i’r swydd Rheolwr Perthynas - Pobl Ifanc a Sgiliau. Bydd angen i chi allu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg mewn cyfarfodydd, yn unigol ac yn gyhoeddus. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant y wlad; perthynas amrywiol pobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg ac sy’n ymrwymo i ddatblygu defnydd blaengar o’r Gymraeg yn ieithyddol a diwylliannol o fewn Cyngor y Celfyddydau a’r sector ehangach.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Sut i ymgeisio

Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau: 5yh, Dydd Gwener 29 Awst 2025

Cyfweliadau: 22ain a'r 23ain o Fedi 2025 (Mewn person yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd)

Gweithio hyblyg

Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Relationship Manager - Young People & Skills

Full-time, 37 hours per week

Permanent Contract

Grade D: Starting salary of £44,718

Location: This role can be based at any one of the Arts Council of Wales offices in Cardiff, Colwyn Bay or Carmarthen. We are currently working in a hybrid way.

Our benefits include 30 days’ annual leave, 2.5 privilege days, flexible working hours/pattern, cycle to work scheme and a final salary pension (6%).

About this role

As Relationship Manager - Young People and Skills, you’ll be a trusted connector in Wales’s youth arts ecosystem. Working with the Head of Young People and Skills, you’ll support young artists and organisations, strengthening creative skills development and ensuring young Welsh voices are celebrated and supported. Your work will integrate Welsh Language, Diversity, Inclusion, and Climate Justice

About you

We are seeking a passionate advocate with hands-on experience working with young people in the arts. You understand their perspectives and skills needs, building authentic relationships with youth organisations and educational providers. Collaborative and visible, you’re committed to empowering young creatives and advancing Welsh cultural and social priorities with a long-term, inclusive approach.

Welsh language

The position of Relationship Manager - Young People and Skills is Welsh essential. You will need to be able to communicate in both English and Welsh in meetings, individually and in public. We are looking for an individual who understands the culture of Wales; the diverse relationship of the people of Wales with the Welsh language and who is committed to ensuring a progressive use of Welsh linguistically and culturally within the Arts Council and the wider sector.

Diversity and Inclusion

The Arts Council of Wales is an inclusive employer, and we wish to reflect the diverse communities we serve. Applications from culturally and ethnically diverse people and underrepresented groups are encouraged and warmly welcomed. Applications are welcomed in Welsh or English and we will correspond with you in your language of choice.

Disability confident Scheme

The Arts Council of Wales is a Disability Confident employer, committed to interviewing all disabled applicants who meet all the essential criteria set out in the person specification.

How to apply

If you would like to submit your application in an alternative format, such as voice note, video or British Sign Language video, please contact us first.

Closing date: 5pm Friday 29th August 2025

Interview date: 22nd and 23rd of September 2025 (In person in our Cardiff Office)

Flexible working

In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.

Please clearly state your proposal for working anything other than the advertised hours in your covering email upon submitting your application.

Salary : 44718 - 44718

Apply Now!

Similar Jobs ( 0)