Cyfreithiwr y Brifysgol - University Lawyer - Michael Page Legal : Job Details

Cyfreithiwr y Brifysgol - University Lawyer

Michael Page Legal

Job Location : Cardiff, UK

Posted on : 27/08/2025 - Valid Till : 10/09/2025

Job Description :

Byddwch yn gyfrifol am roi cyngor cyfreithiol arbenigol i'r Brifysgol yn y rôl hon. Mae'r meysydd arbenigol y mae'r gwasanaethau cyfreithiol yn gyfrifol amdanynt yn cynnwys contractau masnachol, cyfraith elusennau, ymgyfreitha sifil, cyflogaeth, eiddo deallusol, cyfraith eiddo (ystadau) a thelerau ac amodau.

Client Details

Ydych chi'n Gyfreithiwr neu'n Fargyfreithiwr sy'n chwilio am y cyfle i ymuno â thîm bach, prysur a chefnogol mewn sefydliad sydd ar flaen y gad o ran newid bywydau?

Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol Grwp Russell sy'n darparu rhagoriaeth ym meysydd addysgu ac ymchwil, gan gynorthwyo myfyrwyr a chymdeithas i ffynnu. Mae ein strategaeth newydd - 'Gyda'n Gilydd, Gallwn Ni' - yn uchelgeisiol ynglyn â'n heffaith a'n lle yng Nghymru a'r byd, ac mae ystod o ddatblygiadau cyffrous newydd ar y gweill, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd Kazakhstan.

Os ydych chi'n gyfreithiwr ar hyn o bryd sy'n mwynhau gweithio yn rhan o dîm mewnol deinamig ac yn meithrin perthnasoedd gwych â rhanddeiliaid, hoffem glywed gennych chi.

Description

Dyletswyddau Cyfreithiol Craidd:

· Rhoi cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel a fydd yn cael effaith ar draws y sefydliad, gan sicrhau cydymffurfiaeth â newidiadau cyfreithiol a rheoleiddiol.

· Drafftio, adolygu, a thrafod ystod eang o ddogfennau cyfreithiol gan gynnwys contractau masnachol, cydweithrediadau academaidd, cytundebau ymgynghori, contractau adeiladu, cytundebau tenantiaeth/trwyddedau, a threfniadau contractwyr.

· Cynghori ar faterion eiddo deallusol (e.e. hawlfraint, nodau masnach, enwau parthau), gan gynnwys canllawiau rhagarweiniol a chofrestriadau ffurfiol.

· Cynorthwyo apeliadau a chwynion myfyrwyr o safbwynt cyfreithiol.

· Arwain prosiectau cydymffurfiaeth gyfreithiol, rheoli timau prosiect, a pharatoi strategaethau i liniaru risgiau cyfreithiol.

· Ymchwilio i faterion cyfreithiol cymhleth, paratoi adroddiadau argymhellion, a sicrhau cyfrinachedd a chyfreithlondeb.

· Datblygu a gwella prosesau a gwasanaethau cyfreithiol ar draws y Brifysgol.

Dyletswyddau Strategol a Chydweithredol:

· Cynghori uwch-staff ar risgiau cyfreithiol a chyfrannu at ddatblygu polisïau.

· Meithrin perthynas ag adrannau mewnol a chyrff cyfreithiol allanol.

· Creu ac arwain gweithgorau i gyflawni amcanion sefydliadol.

· Dylunio a chyflwyno hyfforddiant cyfreithiol sydd wedi'i deilwra i gynulleidfaoedd amrywiol.

Datblygiad Proffesiynol a Dyletswyddau Cyffredinol:

· Bod yn ymwybodol o newidiadau cyfreithiol ac yn y sector drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.

· Cynnal cyfrinachedd a chadw at bolisïau'r Brifysgol.

· Cyflawni dyletswyddau ychwanegol sy'n cyd-fynd â'r rôl yn ôl yr angen.

Profile

Cymwysterau Hanfodol:

· Cyfreithiwr neu fargyfreithiwr cymwys yng Nghymru a Lloegr

Arbenigedd Cyfreithiol:

· Profiad helaeth ar ôl cymhwyso ym meysydd Cyfraith Fasnachol, Ymgyfreitha Sifil, Cyflogaeth, neu Gyfraith Gyhoeddus/Rheoleiddio.

· Sgiliau cyfreithiol cryf: drafftio, ymchwilio, negodi, eirio a chyfweld.

· Dealltwriaeth gadarn o gyd-destunau rheoledig a chydymffurfiaeth gyfreithiol.

· Cyfathrebu a Chydweithio:

· Y gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau strategol a meithrin perthnasoedd ar draws pob lefel.

· Y gallu i gyfathrebu cysyniadau cyfreithiol cymhleth yn glir ac yn broffesiynol.

· Ymrwymiad i wella gwasanaethau ac ymateb i adborth.

· Y gallu i weithio ar y cyd a chyfrannu at ddatblygiad hirdymor drwy rwydweithio.

Cynllunio a Datrys Problemau:

· Y gallu i ddatrys problemau mewn ffyrdd creadigol ac ymarferol drwy ddefnyddio sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf.

· Dealltwriaeth gyfredol o ddatblygiadau cyfreithiol mewn disgyblaethau perthnasol.

· Y gallu i reoli prosiectau ac arwain timau tymor byr.

· Y gallu i ymdopi â llwythi gwaith heriol yn seiliedig ar ddyddiadau cau, ochr yn ochr â chynnal ffocws ar gleientiaid.

Nodweddion Dymunol:

· Profiad o reoli llinell, gan gynnwys datblygu staff a goruchwylio lles.

· Profiad ym maes Addysg Uwch neu lywodraethu AU.

· Gwybodaeth gyfreithiol eang, gan gynnwys Cyfraith Elusennau.

· Parodrwydd i ddysgu Cymraeg (ysgrifenedig a llafar)

Job Offer

Gellir cynnig y swyddi penagored hyn ar sail gweithio cyfunol, gan gynnwys oriau cywasgedig neu ran-amser (o leiaf 0.8 CALl) yn amodol ar gytundeb. Felly, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws ar gyfer cyfarfodydd y tîm neu Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol neu faterion eraill yn ôl yr angen (tua dau ddiwrnod y mis, ond mae'n amrywio), cewch hefyd ddewis treulio peth amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. gartref. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo'r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny, gan gynorthwyo'r cydbwysedd rhwng eich gwaith a'ch bywyd personol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), pro-rata ar gyfer rhan amser, cynllun pensiwn lleol, gweithio cyfunol (sy'n golygu y gallech weithio gartref am beth o'ch amser, yn dibynnu ar anghenion busnes), cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio - mewn prifddinas amrywiol a bywiog - ac mae'n gefnogwr balch o'r Cyflog Byw.

Salary : 51752 - 51753

Apply Now!

Similar Jobs ( 0)